Llywodraeth Cymru 
  
 
 Ymateb i Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2024
 
 09 Mai 2025

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (CCWLSIR) am eu hadroddiad blynyddol ar gysylltiadau rhyngwladol.

 

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r wyth argymhelliad wedi'i nodi isod. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi casgliadau'r adroddiad.

Cynnwys

Ymatebion i Argymhellion y Pwyllgor. 3

Argymhelliad 1. 3

Argymhelliad 2.. 3

Argymhelliad 3.. 4

Argymhelliad 4.. 4

Argymhelliad 5.. 5

Argymhelliad 6.. 5

Argymhelliad 7.. 6

Argymhelliad 8.. 7

 

Ymatebion i Argymhellion y Pwyllgor 

Argymhelliad 1

 

Galwn ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu a restrir yn y Strategaeth Ryngwladol a'i chynlluniau gweithredu, yn unol â'r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog yn ystod tystiolaeth i Bwyllgor Craffu'r Prif Weinidog ym mis Rhagfyr 2024.

 

Ymateb:  Derbyn mewn egwyddor

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu newidiadau geowleidyddol sylweddol, pandemig byd-eang, a rhyfel yn Ewrop ers lansio'r Strategaeth Ryngwladol yn 2020. Mae'r digwyddiadau hyn wedi golygu bod angen dull hyblyg ac addasol gan y Llywodraeth a'r Strategaeth ei hun. O ganlyniad i hynny, nid yw rhai o'r camau a amlinellir yn nogfen 2020 bellach yn berthnasol nac yn ymarferol ac rydym wedi symud ymlaen mewn meysydd na chafodd eu nodi bum mlynedd yn ôl, megis diplomyddiaeth chwaraeon, a chydraddoldeb rhywedd yn Affrica Is-Sahara.

 

Mae'r Prif Weinidog wedi cyfarwyddo swyddogion i ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau diriaethol yn hytrach nag adolygu neu ailysgrifennu strategaethau presennol. Bydd swyddogion yn parhau i adrodd ar dri amcan craidd y strategaeth a'r Cynlluniau Gweithredu cysylltiedig, fel y gwnaethant hyd yma trwy ein Hadroddiad Blynyddol. Fodd bynnag, bydd Adroddiad Blynyddol 2025-26 yn cynnwys diweddariad yn erbyn y 15 nod a nodir yn y Cynllun Cyflawni, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2025.

 

Goblygiadau Ariannol: Dim

 

 

Argymhelliad 2

 

Y tu hwnt i Gynllun Cyflawni'r Strategaeth Ryngwladol, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn datblygu mecanweithiau i fonitro cyflawni ei blaenoriaethau yn barhaus. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys yn yr adroddiadau blynyddol a ddarperir i'r Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor yn y dyfodol, yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i gyflawni blaenoriaethau a chamau gweithredu penodol a restrir yn ei strategaethau.

 

Ymateb:  Derbyn

 

Roedd swyddogion yn falch o roi briff technegol manwl i'r Pwyllgor ar Gynllun Cyflawni'r Strategaeth Ryngwladol ar 2 Ebrill.

 

 

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnwys diweddariad yn ei hadroddiadau blynyddol ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau allweddol. Bydd diweddariad ar gynnydd yn erbyn Cynllun Cyflawni'r Strategaeth Ryngwladol yn cael ei gynnwys yn ein Hadroddiad Blynyddol 2025-26.

 

Bydd yr argymhelliad hwn yn cael ei ystyried ymhellach wrth ddatblygu unrhyw Strategaeth Ryngwladol bosibl newydd yn y dyfodol.

 

Goblygiadau Ariannol: Dim

 

Argymhelliad 3

Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhestr o ddulliau y mae'n eu defnyddio i adrodd ar ganlyniadau, yng ngoleuni datganiad y Prif Weinidog, bod ei hadroddiadau blynyddol yn "ddim ond un o'r dulliau" a ddefnyddir.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i adrodd ar ganlyniadau. Yn ogystal ag adroddiadau blynyddol, mae'r llywodraeth hefyd yn defnyddio cyfleoedd eraill i adrodd gan gynnwys datganiadau llafar, datganiadau ysgrifenedig, datganiadau i'r wasg, cyfweliadau i'r wasg, atebion i gwestiynau'r Senedd, ymddangosiadau gerbron Pwyllgorau'r Senedd a phapurau tystiolaeth.

 

Mae dulliau mewnol o adrodd ar ganlyniadau yn cynnwys adroddiadau misol i weinidogion o bob rhan o'r timau cysylltiadau rhyngwladol yng Nghymru a thramor, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn y Strategaeth Ryngwladol. Mae adroddiadau gwerthuso 'Cymru a' ar gyfer blynyddoedd hefyd yn darparu gwybodaeth am ganlyniadau.

 

Goblygiadau Ariannol: Dim

 

 

Argymhelliad 4

 

Galwn ar Lywodraeth Cymru i esbonio'r rhesymeg dros newid enw ei hadroddiadau rhwydwaith tramor blynyddol i 'adroddiad blynyddol cysylltiadau rhyngwladol' a pha oblygiadau, os o gwbl, sydd gan hyn i'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiadau.

 

Ymateb:  Derbyn

 

Mae cael llwyddiant rhyngwladol yn dibynnu ar waith tîm rhagorol. Nid yw ein gwaith dramor yn digwydd ar wahân; mae'n cael ei gefnogi gan dimau yng Nghymru, gan weithio gyda'r swyddfeydd tramor i gyflawni nodau'r Strategaeth

 

Ryngwladol a'i chynlluniau gweithredu cysylltiedig ar y cyd. Mae'r un peth yn wir am ymgysylltu rhyngwladol yng Nghymru - mae hyn yn cael ei gefnogi gan ein timau ar lawr gwlad ledled y byd, gyda llwyddiant rhyngwladol yn dibynnu ar gydweithio. Newidiwyd adroddiad blynyddol 2023-24 i adlewyrchu'n fwy cywir ehangder ein gweithgarwch rhyngwladol, a'r realiti bod y swyddfeydd tramor a'r tîm cysylltiadau rhyngwladol yng Nghymru yn un tîm, sy'n cyflawni gyda'i gilydd.

 

Mae'r newid yn cynnig darlun llawnach, a mwy crwn, i'r Pwyllgor o'r ymgysylltiad a'r gweithgarwch rhyngwladol trwy gydol y flwyddyn, gartref a thramor. Mae hefyd yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor ddysgu mwy am waith rhaglen Cymru ac Affrica, sy'n rhan annatod o'n cyflawniad rhyngwladol a oedd wedi'i heithrio o'r adroddiad blynyddol yn flaenorol oherwydd ei fod wedi'i gyflwyno o Gymru, yn hytrach na thîm sydd wedi'i leoli yn y farchnad.

 

Goblygiadau Ariannol:  Dim

 

 

Argymhelliad 5

 

Galwn ar Lywodraeth Cymru i restru'r holl gytundebau dwyochrog rhyngwladol ar ei thudalen we bwrpasol.

 

Ymateb: Derbyn yn rhannol

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cyhoeddi ar ei thudalen we, yr holl gytundebau gweithredol a lofnodwyd ar lefel weinidogol, sy'n cwmpasu sawl maes polisi. Crëwyd y wefan hon yn sgil argymhelliad gan y Pwyllgor. Fodd bynnag, mae dogfennau y gellid eu hystyried yn gytundebau rhyngwladol yn cael eu llofnodi'n rheolaidd ar draws y llywodraeth gyfan i alluogi cyflawni canlyniadau a byddai rhestru pob dogfen y gellid ei hystyried yn gytundeb rhyngwladol yn cymryd gormod o amser i'w casglu, yn tynnu sylw oddi wrth gyflawni, ac ni fyddai'n gyrru ymlaen i gyflawni ein hamcanion. Mae'n rhaid i feysydd polisi unigol benderfynu a ydyn nhw am gyhoeddi manylion eu cytundebau rhyngwladol.

 

Mae'n rhaid i feysydd polisi unigol benderfynu a ydyn nhw am gyhoeddi manylion eu cytundebau rhyngwladol.

 

Nid oedd y cytundebau a restrir yn adroddiad blynyddol y Pwyllgor yn gytundebau trawsbynciol ond roeddent yn sector-benodol yn ymwneud â'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd. Gan ystyried y paramedrau a nodir uchod, mae'r dudalen we yn gyfredol.

 

Goblygiadau Ariannol: Dim

 

 

 

Argymhelliad 6

 

Galwn ar Lywodraeth Cymru i roi gwybod i'r Pwyllgor hwn yn rhagweithiol pan fydd cytundebau dwyochrog rhyngwladol newydd yn cael eu llofnodi.

 

Ymateb:  Derbyn

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi mecanweithiau ar waith i hysbysu'r Pwyllgor pan fydd cytundebau dwyochrog rhyngwladol trawsbynciol newydd yn cael eu llofnodi.

 

Goblygiadau Ariannol: Dim

 

 

Argymhelliad 7

 

Galwn ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â gweithredu Confensiwn UNESCO ar gyfer Diogelu'r Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol, gan gynnwys ei flaenoriaethau er mwyn cydnabod a diogelu traddodiadau Cymreig, ac ar drafodaethau rhynglywodraethol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Y DU, fel llofnodwr Confensiwn UNESCO, yw y 'wladwriaeth sy'n barti' ac felly mae'n dal yr awenau ar ddwy rwymedigaeth eang y Confensiwn: creu rhestr o dreftadaeth fyw a sicrhau diogelu treftadaeth fyw yn eu tiriogaeth. 

 

Mae dull y DU at y rhwymedigaethau hyn wedi'i ddatblygu a'i gytuno gyda thryloywder llawn a thrwy gydweithrediad agos â Llywodraeth Cymru a gwledydd datganoledig eraill. Mae'r dull hefyd wedi cael ei ddylanwadu'n drwm gan y modelau a'r gwersi a ddysgwyd gan wledydd eraill.

 

Lansiodd DCMS ymgynghoriad cyhoeddus ar ddechrau 2024 i lywio sut y bydd cam cyntaf gweithredu - creu rhestr y DU - yn gweithio. Bydd gan Gymru ei rhestr ei hun o fewn rhestr gyffredinol yn y DU. Yn amodol ar gytundeb, rwy'n disgwyl y bydd yr alwad gyntaf am gynnwys rhestr yn digwydd yn haf 2025 ac y gellid cyhoeddi'r rhestrau erbyn dechrau 2026.

 

Disgwylir i'r adroddiad ymgynghori, sy'n manylu ar y ffordd ymlaen, gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2025.  Pwynt pwysig o eglurder yw bod Confensiwn UNESCO yn ymwneud ag unrhyw dreftadaeth fyw sy'n cael ei hymarfer o fewn tiriogaeth – ni fydd angen i dreftadaeth fyw yng Nghymru fod yn gynhenid Gymreig i ymddangos ar restr Cymru. Pan fydd yr alwad am eitemau i'w cynnwys yn cael ei lansio, bydd yn cyfeirio at dreftadaeth fyw sy'n cael ei ymarfer yng Nghymru. Bydd yr alwad am gynnwys hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod eitemau ar y rhestrau yn cael eu cynhyrchu a'u cefnogi gan gymunedau sy'n ymarfer, ac nid gan y Llywodraeth.

 

 

Mae ein Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yn cynnwys yr uchelgais: 'Mae ein treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn rhan annatod o stori’n gwlad – mae’n cael ei chofnodi, ei chefnogi i ffynnu, a’i rhannu ag eraill er budd cenedlaethau’r dyfodol.' Mae cynnwys yr uchelgais strategol hon yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru a holl randdeiliaid y sector yn gweithio gyda'i gilydd i gofnodi a chefnogi ein treftadaeth fyw yng Nghymru.

 

Goblygiadau Ariannol: Dim

 

 

Argymhelliad 8

Galwn ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau a yw wedi ailedrych ar fater Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn Ŵyl Banc yng Nghymru gyda Llywodraeth newydd y DU, a'i hymateb.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu'n eang ledled Cymru a ledled y byd. Mae gwyliau banc yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth y DU. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU i'r Senedd gael y pwerau i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc.  Mae trafodaethau'n parhau â Llywodraeth y DU.

 

O ran gweithgarwch cysylltiadau rhyngwladol, byddwn yn parhau i ddefnyddio'r cyfle byd-eang y mae Dydd Gŵyl Dewi yn ei gynnig i godi proffil Cymru ledled y byd drwy weithgareddau gweinidogol a digwyddiadau eraill. Eleni, ymgymerodd Llywodraeth y DU hefyd â rhaglen o weithgarwch, gan ddefnyddio deunyddiau a ddarparwyd gennym i gefnogi ymgysylltu ledled y byd ac yn Llundain.      

 

Goblygiadau Ariannol: Dim